Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth cymorth presennol i fyfyrwyr er mwyn:
· gwneud personau y rhoddir caniatâd iddynt aros o dan Gynllun Wcráin, gan gynnwys y personau hynny y rhoddwyd caniatâd iddynt y tu allan i'r rheolau mewnfudo mewn cysylltiad ag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref, a'r cap ar ffioedd dysgu israddedig wrth ddechrau neu barhau cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2022; a
· gwneud myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs dysgu israddedig o bell yngymwys i wneud cais am Grantiau ar gyfer Dibynyddion.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Nodwn fod y confensiwn 21 diwrnod yn cael ei dorri (h.y. y confensiwn y dylai fod 21 diwrnod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r confensiwn a ddarperir gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 7 Gorffennaf 2022.
Yn benodol, nodwn y rhan ganlynol yn y llythyr:
"...bydd Rheoliadau 2022, fel y'u gosodwyd, yn dod i rym cyn i 21 diwrnod fynd heibio. Pe gedwir at y confensiwn o 21 diwrnod, byddai myfyrwyr Wcreinaidd yn wynebu oedi y gellid bod wedi’i osgoi wrth geisio cael gafael ar gymorth, a hynny’n groes i bolisi Llywodraeth Cymru, a byddai hynny yn eu rhoi o dan anfantais o gymharu â myfyrwyr eraill. Gallai gael effaith andwyol ar eu gallu i ddechrau cwrs addysg uwch yn y flwyddyn academaidd newydd. Byddai hyn yn arwain at sefyllfa anffodus o ofid, siom a niwed y gellid bod wedi’i osgoi i fyfyrwyr sydd eisoes yn dioddef trawma rhyfel."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2 Awst 2022